Adolygiad Annibynnol yn canfod bod proses penderfynu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn briodol, yn deg ac yn rhydd o unrhyw ragfarn wleidyddol. Dawâr Adolygiad iâr casgliad y dylai hyn roi sicrwydd iâr cyhoedd y gallant fod â ffydd a hyder yng ngwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru aâi DĂŽm Cod Ymddygiad.
Cefndir
Ar Ă´l canfod defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol gan gyn-reolwr tĂŽm yng ngwanwyn eleni, mynegwyd pryderon am ddidueddrwydd ac annibyniaeth y swyddfa, yn enwedig mewn perthynas ag ymdrin â chwynion am gynghorwyr lleol a allai fod wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau.
Felly, comisiynodd yr Ombwdsmon adolygiad annibynnol, i sefydlu a fuâr prosesau, dirprwyaethau a phenderfyniadau mewn perthynas ag asesu ac ymchwilio i gwynion gan y TĂŽm Cod Ymddygiad, aâr cyn-reolwr tĂŽm, yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.
Penodwyd Dr Melissa McCullough* i arwain yr adolygiad.
Â
Canfyddiadau Allweddol o’r Adroddiad
Daeth yr Adolygiad iâr casgliadau canlynol:
- Mae prosesau a dirprwyaethau Cod Ymddygiad OGCC yn gadarn, o ran diogelu, tegwch a didueddrwydd.  Maent yn systematig, wedi’u dogfennu’n dda ac wedi’u hategu gan ganllawiau priodol ac mae angen cofnodi ac esbonio’r rhesymau dros benderfyniadau, fel y bo’n briodol.
- Mae’r holl benderfyniadau yn seiliedig yn gyfan gwb ar dystiolaeth, ffeithiau ac ymresymiad cadarn ac wedi’i fynegi’n dda ac, fel y cyfryw, nid oedd unrhyw dystiolaeth o duedd wleidyddol.  Ni chanfuâr adolygiad achos unrhyw dystiolaeth bod y penderfyniadau ar unrhyw un oâr achosion a adolygwyd wediâi ddylanwadu gan ymlyniad gwleidyddol yr unigolyn a wnaeth y gĹľyn a/neuâr aelod y cwynwyd amdano.
- Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y cyn-reolwr tĂŽm wedi mynegi ei barn bersonol ar faterion gwleidyddol âyn debyg iâw postiadau cyfryngau cymdeithasolâ yn y swydd a/neu wedi dylanwaduân amhriodol ar unrhyw aelod arall o staff, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gwnaeth yr adolygiad argymhellion i wellaâr mesurau diogelu presennol ar gyfer sicrhau tegwch a didueddrwydd.  Nodwyd y gwersi a ddysgwyd hefyd i leihauâr risg oâr math hwn o ddigwyddiad rhag digwydd eto yn y dyfodol.
Ymateb OGCCÂ
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn croesawuâr adroddiad hwn aâr cadarnhad fod y broses penderfynu, o ran cwynion Cod Ymddygiad, yn rhydd rhag rhagfarn wleidyddol.
Maeâr adolygiad hwn yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan y TĂŽm Cod Ymddygiad ac rydym yn falch bod yr Adolygydd Annibynnol wedi datgan y dylai roi sicrwydd, iâr cyhoedd ac aelodau etholedig, fel y gallant fod â ffydd a hyder yng ngwaith OGCC.
Mae OGCC yn derbyn yr holl argymhellion a bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i gryfhau polisĂŻau ac ymarferion, recriwtio a hyfforddi mewnol ymhellach.
*Dr Melissa McCullough yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon (ers 2020) a hefyd Comisiynydd Safonau Cynulliadau Taleithiau Jersey a Guernsey (ers Mawrth 2023). Symudodd Melissa i Belfast oâr Unol Daleithiau yn 1994 a chael PhD o Brifysgol y Frenhines Belfast, Cyfadran Meddygaeth yn 1997. Mae hi wedi gweithio fel academydd yn y gyfraith, moeseg a phroffesiynoldeb yn y DU ac Iwerddon ers 2005. Mae Melissa hefyd yn meddu ar Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Ymarfer Ymchwilio, gradd Meistr mewn Biofoeseg a Moeseg Gymhwysol a gradd Baglor yn y Gyfraith. Gwasanaethodd Melissa fel cyfarwyddwr anweithredol a benodwyd gan weinidog ar y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon o 2009 tan 2020 ac maeân aelod o Bwyllgor Moeseg y BMJ ar hyn o bryd.