Heddiw, mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Michelle Morris, yn cyhoeddi’r Cylch Gorchwyl terfynol ar gyfer yr adolygiad annibynnol o waith Cod Ymddygiad Cynghorwyr yr Ombwdsmon. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal i roi sicrwydd bod ei brosesau, ar gyfer ystyried cwynion bod cynghorwyr wedi torri Cod Ymddygiad y cynghorwyr, yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol. Bydd hefyd yn nodi gwersi y gellir eu dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd.
Cylch Gorchwyl: Adolygiad Annibynnol o Ymchwiliad OGCC o Gwynion Cod Ymddygiad
Cefndir
Sefydlwyd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2006 gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Yn 2019 diddymwyd y Ddeddf hon aâi disodli gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (âDeddf 2019â). Y Goron syân penodi âOmbwdsmonâ ac maeâr Ombwdsmon presennol, Michelle Morris, wedi bod yn ei swydd ers mis Ebrill 2022.
RĂ´l OGCC yw: 1) ystyried cwynion bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda gwasanaethau cyhoeddus Cymru; 2) ystyried cwynion bod cynghorwyr Cymru wedi torri eu Cod Ymddygiad; a 3) gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru.
Cyd-destun
Ar 26 Mawrth 2024, rhoddodd aelod oâr cyhoedd wybod i OGCC fod aelod o staff (cyfeirir ati yma fel y âCyn Arweinydd TĂŽmâ) wedi bod yn gwneud postiadau amhriodol ac annerbyniol o natur wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol.
Ataliwyd y Cyn Arweinydd TĂŽm oâr gwaith ar 29 Mawrth 2024 ac ymddiswyddodd oâi rĂ´l gydag OGCC ar 3 Ebrill 2024. Buâr Cyn Arweinydd TĂŽm, hyd at ddiwedd Awst 2023, yn arwain y TĂŽm Cod syân asesu ac yn ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr lleol wedi torriâr Cod Ymddygiad i gynghorwyr yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000 (âDLlL 2000â).
Cwmpas a Diben yr Adolygiad
Diben yr adolygiad annibynnol yw ystyried prosesau OGCC ar gyfer asesu ac ymchwilio i gwynion bod aelodau o awdurdodau lleol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parc cenedlaethol a phaneli dros faterion plismon a throseddu yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad, i sicrhau eu bod yn gadarn, yn rhydd o ragfarn wleidyddol a bod gwersi yn cael eu dysgu oâr hyn sydd wedi digwydd. Nod yr adolygiad hwn yw rhoi sicrwydd ynghylch a yw prosesau, dirprwyaethau a phenderfyniadau cod ymddygiad OGCC mewn perthynas ag asesu ac ymchwilio cwynion oâr fath, wedi bod yn gadarn, yn rhydd o ragfarn wleidyddol [1] a bod gwersi yn cael eu dysgu oâr hyn sydd wedi digwydd.
Er nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd bod y Cyn Arweinydd TĂŽm wedi mynegi ei barn bersonol neu wedi dylanwadu ar eraill yn y swyddfa, mae OGCC yn cydnabod bod angen i unrhyw adolygiad hefyd roi sicrwydd ar benderfyniadauâr Cyn Arweinydd TĂŽm aâi dylanwad posibl ar eraill. Nid oes unrhyw fwriad i’r adolygiad hwn ailasesu achosion o’r newydd nac ailagor achosion.
Cwynion Cod Ymddygiad nad ydynt yn cael eu hymchwilio
O 1 Ebrill 2021 ymlaen, roedd y TÎm Cod yn gyfrifol am asesu cwynion Cod Ymddygiad a gwneud penderfyniadau ynghylch pa gwynion na ddylid ymchwilio iddynt. Cyn y dyddiad hwn, gwnaed yr asesiadau hyn mewn tÎm gwahanol nad oedd yn cael ei reoli gan y Cyn Arweinydd TÎm.
Ar 1 Medi 2023, fel syân digwydd o bryd iâw gilydd yn unol ag anghenion gweithredol y swyddfa, cynhaliodd OGCC gylchdro o arweinwyr tĂŽm a symudodd y Cyn Arweinydd TĂŽm i reoli tĂŽm gwahanol yn OGCC. Â Y tro hwn, digwyddodd y cylchdro o ganlyniad i ymddeoliad arweinydd tĂŽm a oedd yn rheoli TĂŽm Ymchwilio i Gwynion Gwasanaethau Cyhoeddus.
Rhwng 1 Medi 2023 tan 22 Hydref 2023, nid oedd gan y TĂŽm Cod arweinydd tĂŽm, hyd nes y bydd yr arweinydd tĂŽm newydd yn dechrau yn y rĂ´l hon ar 23 Hydref. Yn ystod y cyfnod lle nad oedd unrhyw arweinydd tĂŽm yn y rĂ´l, bu uwch reolwr yn goruchwylio gwaith y TĂŽm Cod Ymddygiad. Cafodd gymorth, o bryd iâw gilydd, gan y Cyn Arweinydd TĂŽm.
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried penderfyniadau asesu a gymerwyd gan y Cyn Arweinydd TĂŽm aâr TĂŽm Cod o 1 Ebrill 2021 tan 22 Hydref 2023.
Mae OGCC yn cymhwyso prawf dau gam wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i gĹľyn.  Yn gyntaf, a ywâr dystiolaeth a ddarparwyd yn awgrymu achos o dorriâr Cod Ymddygiad ac yn ail, a oes angen ymchwiliad er budd y cyhoedd.
Gan nad oedd y Cyn Arweinydd TĂŽm yn rheoliâr TĂŽm a wnaeth benderfyniadau asesu ar achosion Cod Ymddygiad cyn 1 Ebrill 2021, ni fydd yr adolygiad hwn yn ystyried penderfyniadau asesu a wnaed cyn 1 Ebrill 2021.
Cwynion Cod Ymddygiad – achosion yr ymchwilir iddynt
Y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau/Prif Gynghorwr Cyfreithiol syân gwneud penderfyniadau i gychwyn ymchwiliad o dan adran 69 o DLlL 2000.
Y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau/Prif Gynghorwr Cyfreithiol syân gwneud penderfyniadau i roi gorau i ymchwiliad cyn ei gwblhau.
Ar Ă´l cwblhau ymchwiliad, rĂ´l OGCC yw penderfynu pa rai oâr canfyddiadau canlynol o dan a69(4) o DLlL 200 syân briodol:
(a) nad oes tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio ââr cod ymddygiad
(b) nad oes angen gweithredu mewn cysylltiad ââr materion syân destun yr ymchwiliad.
( c ) dylid cyfeirioâr materion syân destun yr ymchwiliad at swyddog monitroâr awdurdod perthnasol iâw hystyried gan ei bwyllgor safonau, neu
(d) dylid cyfeirioâr materion syân destun yr ymchwiliad at lywydd Panel Dyfarnu Cymru iâw dyfarnu dan dribiwnlys.
Y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau/Prif Gynghorwr Cyfreithiol syân gwneud penderfyniadau nad oes tystiolaeth o dorriâr Cod (fel yr amlinellwyd yn (a) uchod) neu nad oes angen gweithredu mewn cysylltiad ââr materion yr ymchwiliwyd iddynt (fel yr amlinellwyd yn (b) uchod).
Bydd achosion yr ymchwiliodd y Cyn Arweinydd TĂŽm iddynt yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 (pan ddaeth y Cyn Arweinydd TĂŽm yn gyfrifol am oruchwylioâr gwaith âCod Ymddygiadâ) tan 23 Hydref 2023 a lle penderfynodd y Cyn Arweinydd TĂŽm naill ai i roi gorau iddynt neu eu cau gan nad oedd tystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ââr cod neu nad oedd angen gweithredu, yn cael eu hystyried fel rhan oâr adolygiad hwn. Er na wnaeth y Cyn Arweinydd TĂŽm y penderfyniad terfynol ar yr achosion hyn, bydd yr holl achosion y buâr Cyn Arweinydd TĂŽm yn ymchwilio iddynt tra mewn rĂ´l reoli yn goruchwylio gwaith achos Cod Ymddygiad ar gyfer OGCC, yn cael eu hystyried fel rhan oâr adolygiad hwn.
Yr Ombwdsmon syân gwneud penderfyniadau i atgyfeirio mater ar gyfer gwrandawiad gan bwyllgor safonau neu Banel Dyfarnu Cymru o dan ( c ) neu (d) uchod.
Maeâr achosion hyn yna yn ddarostyngedig i wrandawiad annibynnol, lle gellir herioâr ymchwiliad a chraffu arno, a gellir galw ar dystion cyn iâr pwyllgor safonau perthnasol neu Banel Dyfarnu Cymru ddod i benderfyniad ynghylch a ywâr cynghorydd syân destun y cwynwyd amdano wedi torriâr Cod Ymddygiad, ac os felly, a ddylid gosod sancsiwn.
Gall cynghorydd apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan bwyllgor safonau i Banel Dyfarnu Cymru.
Gall cynghorydd apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Banel Dyfarnu Cymru iâr Uchel Lys.
Mae Panel Dyfarnu Cymru a phwyllgorau Safonau yn annibynnol ar yr Ombwdsmon ac yn gwneud penderfyniadau ar achosion yn annibynnol ar yr Ombwdsmon. Mae achosion a gyfeiriwyd naill ai at bwyllgor safonau neu at Banel Dyfarnu Cymru eisoes wediâu hadolygu gan y cyrff hynny. Gellir apelio yn erbyn penderfyniadauâr cyrff hynny: hynny yw, mae mecanwaith statudol ar waith syân caniatĂĄu i gynghorydd syân ddarostyngedig i benderfyniad y cyrff hynny geisio adolygiad pellach oâr penderfyniadau hynny. Nid oes gan yr Ombwdsmon unrhyw bĹľer i newid penderfyniad pwyllgor safonau na Phanel Dyfarnu Cymru. Yr unig ffordd y gellir herio neu newid penderfyniadau o’r fath yw drwy’r broses apelio statudol. Yn unol â hynny, ni fydd yr adolygiad yn cynnwys yr achosion hyn.
Adolygydd Arweiniol
Dr Melissa McCullough
Melissa yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon (ers 2020) a hefyd Comisiynydd Safonau Cynulliadau Taleithiau Jersey a Guernsey (ers Mawrth 2023). Symudodd Melissa i Belfast oâr Unol Daleithiau yn 1994 a chael PhD o Brifysgol y Frenhines Belfast, Cyfadran Meddygaeth yn 1997. Mae hi wedi gweithio fel academydd yn y gyfraith, moeseg a phroffesiynoldeb yn y DU ac Iwerddon ers 2005. Mae Melissa hefyd yn meddu ar Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Ymarfer Ymchwilio, gradd Meistr mewn Biofoeseg a Moeseg Gymhwysol a gradd Baglor yn y Gyfraith. Gwasanaethodd Melissa fel cyfarwyddwr anweithredol a benodwyd gan weinidog ar y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon o 2009 tan 2020 ac maeân aelod o Bwyllgor Moeseg y BMJ ar hyn o bryd.
Y TĂŽm Adolygu
Mr John Devitt
Mae John Devitt yn Uwch Arbenigwr Goruchwylio Plismona ac Ymchwilydd Proffesiynol Annibynnol. Mae John yn gyn Dditectif Scotland Yard ac yn Uwch Ymchwilydd i Swyddfa Ombwdsmon Heddlu Gogledd Iwerddon. Mae gan John wybodaeth a phrofiad helaeth o ymchwilio i droseddau mawr. Dros ei yrfa hir, mae wedi ymgymryd â rhai o’r ymchwiliadau mwyaf heriol, cymhleth a sensitif yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae John yn aelod oâr Panel Ymgynghorol ar gyfer yr elusen Inside Justice syân adolygu ac yn ymchwilio i achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder. Mae John hefyd yn cefnogi Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon gyda’i gwaith achos cyfredol ar foeseg a safonau. Mae wedi bod yn aelod o Sefydliad yr Ymchwilwyr Proffesiynol er 1992.
Mr Shane McAteer
Shane McAteer yw Clerc Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac mae wedi gweithio fel uwch swyddog cyhoeddus ers dros 20 mlynedd, gyda phrofiad o gefnogiâr gwaith o ddatblygu a chraffu ar bolisi cyhoeddus a deddfwriaeth ac o ddarparu cyngor gweithdrefnol, dadansoddi polisi a chefnogaeth broffesiynol i gynrychiolwyr etholedig. Mae gan Shane brofiad arbennig o gynghori cynrychiolwyr etholedig ar ofynion y Cod Ymddygiad ac o gefnogiâr gwaith o ddyfarnu cwynion yn erbyn cynrychiolwyr etholedig. Mae ganddo arbenigedd mewn ymchwiliadau ymddygiad/gweithle ac mae ganddo’r Dystysgrif Broffesiynol Uwch mewn Ymarfer Ymchwilio. Yn ogystal, mae gan Shane brofiad blaenorol fel Prif Swyddog Gweithredol yn y Trydydd Sector.
Casglu Tystiolaeth
Bydd pob un o’r TĂŽm Adolygu yn cael mynediad i’r gronfa ddata rheoli achosion. Ar wahân i’r hyn sydd ar gael ar y gronfa ddata rheoli achosion, bydd y TĂŽm Adolygu hefyd yn casglu unrhyw a phob gohebiaeth ysgrifenedig, dogfennaeth, a chyfathrebiadau sy’n ymwneud ac yn berthnasol i gwmpas a diben yr adolygiad gan gynnwys gwybodaeth e-bost, ffĂ´n, digidol a chopi caled. Efallai y bydd y tĂŽm Adolygu yn ystyried bod angen cyfweld ag aelodau’r tĂŽm a staff a thrydydd partĂŻon perthnasol eraill fel y daw i’r amlwg drwy gydol yr adolygiad.
Canlyniadau
Maeâr Ombwdsmon wedi penodi Melissa McCullough i arwain yr adolygiad annibynnol hwn ac i adrodd ar eu canfyddiadau.
Mae OGCC oâr farn y dylai fod gan Dr McCullough gwmpas eang ar gyfer gwneud sylwadau a dylai geisio:
- Adolygu prosesau a dirprwyaethau Cod Ymddygiad OGCC i sicrhau eu bod yn briodol, yn deg ac yn ddiduedd ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.
- Adolyguâr penderfyniadau a wnaed gan y cyn arweinydd tĂŽm aâi ThĂŽm i beidio ag ymchwilio i gwynion Cod Ymddygiad rhwng 1 Ebrill 2021 a 22 Hydref 2023, i sicrhau bod prawf dau gam OGCC wedi cael ei gymhwysoân gywir ac y bu penderfyniadau yn rhydd o ragfarn wleidyddol (673 o achosion).
- Adolygu achosion lleâr oedd y cyn arweinydd tĂŽm yn âberchennog achosâ a gafodd eu hymchwilio aâu cau heb atgyfeiriad i bwyllgor safonau neu Banel Dyfarnu Cymru rhwng 1 Ebrill 2019 a 22 Hydref 2023, i sicrhau nad oes tystiolaeth o ragfarn wleidyddol wrth ymdrin â’r achosion hyn (11 achos).
- Sefydlu a oes tystiolaeth bod yr arweinydd tĂŽm wedi mynegi ei barn bersonol ar faterion gwleidyddol yn debyg iâw postiadau cyfryngau cymdeithasol yn y swydd a/neu wedi dylanwaduân amhriodol ar aelodau eraill o staff, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
- Gwneud unrhyw argymhellion y mae Dr McCullough yn eu hystyried yn briodol a chyhoeddi adroddiad terfynol y bydd OGCC yn ei rannu â Phwyllgor Cyllid y Senedd. Os bydd Dr McCullough yn ystyried bod angen ehangu cwmpas yr adolygiad hwn, bydd hi yn hysbysuâr Ombwdsmon ac yn cytuno ar hyn.
[1]Â At ddibenion yr adolygiad hwn, canfyddir rhagfarn wleidyddol lle mae tystiolaeth bod y penderfyniad ar achos wediâi ddylanwadu gan ymlyniad gwleidyddol yr unigolyn a wnaeth y gĹľyn a/neuâr aelod y cwynwyd amdano.